Mae’r Ymgynghoriad cyn gwneud cais hwn yn delio gyda bwriad Marvel Ltd i wneud cais amlinellol i’r awdurdod cynllunio lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful) ar gyfer adeiladu datblygiad hamdden gymysg yn cynnwys canolfan eira do (hyd at39,200 m sgwâr), parc dŵr (hyd at 7,500 m sgwâr), canolfan weithgareddau dan do( hyd at 9,000 m sgwâr), ardaloedd gweithgareddau tu allan, gwesty ( hyd at 418 ystafell wely), bythynnod coedwig bren ( hyd at 30 uned), maes parcio ( hyd at 830 lle) a gwaith tir perthnasol, mynedfeydd, draeniad, cysylltu â gosod gwasanaethau ac isadeiledd.
Mae gwahoddiad i chi weld y cais cynllunio drafft isod a chynnig sylwadau ar y cynnig cyn y cais cynllunio swyddogol:
Mae gwahoddiad i chi gyflwyno eich ymatebion ymgynghoriad cyn gwneud cais am y datblygiad arfaethedig i ni erbyn Mai 28ain 2022. Gallwch anfon eich ymateb drwy’r post at y cyfeiriad isod neu trwy e-bost at: planning@rhydycarwest.com
CarneySweeney, Tŷ Brunel, 2 Ffordd Fitzalan, Caerdydd, CF24 0EB
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir fel rhan o’r ymgynghoriad yn cael ei drin yn unol â’n polisi preifatrwydd.