Mountain biker at sunset in the Brecon Beacons, Wales-1.png

Lleoliad


LLEOLIR GORLLEWIN RHYDYCAR YM MERTHYR TUDFUL YNG NGHALON CYMOEDD DE CYMRU, Y DU, RHWNG CAERDYDD A PHARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG.


Mae Merthyr Tudful yn dref ac yn fwrdeistref gyda phoblogaeth o 58,000. Mae ganddi hanes toreithiog ac ar un adeg, roedd yn un o’r trefi diwydiannol mwyaf yn y DU, ac ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn cyflenwi llawer o haearn y byd.

Yn sgil ei hanes diwydiannol, cafwyd nifer o ddatblygiadau dyfeisgar o bwys: Merthyr Tudful oedd cartref y locomotif stêm cyntaf un.

Fel trefi ôl-ddiwydiannol eraill, daeth Merthyr Tudful ar draws amseroedd anodd yn ystod y tri degawd o 1980 i 2010. Fodd bynnag, mae’r dref wedi cael adfywiad ac ymdeimlad newydd o bwrpas, gyda’r ffocws ar dwristiaeth yn manteisio ar ei thirweddau hardd a garw a’i threftadaeth gyfareddol.

Mae Merthyr Tudful wedi’i lleoli ar waelod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a bellach, mae’n croesawu twristiaid antur o bob cwr o’r byd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sefydlwyd BikePark Cymru ym Merthyr Tudful yn union y drws nesaf i safle Gorllewin Rhydycar. Bu’r fenter yn llwyddiant ysgubol wrth iddi groesawu pobl sy’n chwilio am wefr i’r ardal.

rhydycar-west-junction.jpg

CLUDIANT


Mae tir Gorllewin Rhydycar yn gyforiog o hanes, ecoleg a chyfleoedd.

O ran ei lleoliad, mae Merthyr Tudful yn un o’r trefi mwyaf hygyrch a chyfleus yng Nghymru. Saif y dref yng nghanol Cymoedd y De gyda ffyrdd sydd yn ei chysylltu â holl ddinasoedd Cymru mewn llai nag awr.

Mae 2 o’r ffyrdd prysuraf yng Nghymru sef yr A470 a’r A465 yn croesi drwy’r dref gan gysylltu Gogledd Cymru â’r brifddinas Caerdydd, a Gorllewin Cymru â Chanolbarth Lloegr.

At hynny, bydd y £800m a wariwyd yn ddiweddar i uwchraddio’r rheilffordd metro yn gwella’r cysylltiadau o Ferthyr Tudful i Gaerdydd, a bydd rhannau o’r prosiect yn barod mor gynnar â 2022. Caiff llinellau a threnau’r metro eu trydaneiddio gan gysylltu trefi’r cymoedd yn gyflymach a darparu gwasanaethau rheolaidd i Gaerdydd o fewn llai nag awr.

Gellir cyrraedd Maes Awyr Caerdydd yn y car ymhen yr awr, Maes Awyr Bryste o fewn 1 awr a 30 munud, a Maes Awyr Birmingham o fewn oddeutu 2 awr.

Gellir cyrraedd Maes Awyr Heathrow o fewn 3 awr gan ddefnyddio dim ond 2 ffordd ar gyfer y daith sef yr M4 o Lundain i Gaerdydd a’r A470 o Gaerdydd i Ferthyr Tudful.

rhydycar-west-animated-map.gif

ATYNIADAU


Dyma rai o’r atyniadau ar garreg ein drws.

Dangoswch eich cefnogaeth a’r hyn sy’n eich pryderu!

Treuliwch 2 funud i gwblhau ein harolwg cyhoeddus

Gwnewch yr arolwg