DIM OND 70% O’R SAFLE A GAIFF EI DDATBLYGU!
Ar ei anterth, roedd yn un o’r ardaloedd mwyngloddio mwyaf yng Nghymru. Fodd bynnag, ers canol yr ugeinfed ganrif, ni chyfyrddwyd â’r tir hwn ac fe aeth yn angof. Ond bellach, mae cynlluniau ar y gweill i’w adfer a’i amddiffyn a chreu sylfaen economaidd gynaliadwy ar gyfer Cymoedd y De a’u hetifeddiaeth.
Daethom i fod yn berchen ar y tir nifer o flynyddoedd yn ôl, ac ers hynny rydym wedi cymryd yr amser a’r gofal i ddeall natur y safle ynghyd â chyfeiriad ac uchelgeisiau’r ardal leol.
Mae’r safle’n rhan o Ferthyr Tudful, tref ac iddi hanes arwyddocaol fel un o bwerdai mwyaf y byd ar gyfer cynhyrchwyr haearn yn ystod Chwyldro Diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heddiw, mae’r dref yn ailddyfeisio’i hun fel cyrchfan antur awyr agored gan ei bod mewn lleoliad delfrydol ar odre Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, un o dirweddau mwyaf trawiadol y DU.
Ar hyn o bryd, mae’r dref yn gartref i un o’r parciau beicio mwyaf poblogaidd yn Ewrop, sef BikePark Cymru sy’n denu dros 300,000 o bobl y flwyddyn o bob cwr o’r byd – rhai â’u bryd ar feicio yn y mynyddoedd ac eraill yn chwilio am wefr. Mae hyn oll wedi’i gyfuno â chefndir gwledig sy’n cynnig rhai o weithgareddau antur awyr agored gorau’r DU. Mae’r llwyddiannau hyn wedi esgor ar weledigaeth i wneud yr ardal yn ganolbwynt i dwristiaeth antur.
Pan gaiff y syniad o Orllewin Rhydycar ei wireddu, mae’n sicr o wneud yr ardal yn un o gyrchfannau antur mwyaf uchelgeisiol Ewrop.
DIM OND 70% O’R SAFLE A GAIFF EI DDATBLYGU!
Mae tir Gorllewin Rhydycar yn gyforiog o hanes, ecoleg a chyfleoedd.
Ni chyffyrddwyd â’r tir am o leiaf 50 mlynedd. Erbyn hyn, mae’n barod i ymgymryd â phwrpas newydd ar gyfer trigolion yr ardal a thu hwnt. Gynt, fe gafodd y tir ei gloddio am ei fwynau trwy lafur caled, ond bellach mae’n barod i fod yn gyrchfan hamdden glân a bywiog sy’n gwneud y gorau o’i deipograffeg, ei leoliad a’i harddwch.
Saif y safle ar lethr gorllewinol y prif ddyffryn, ac fe’i bendithiwyd â golygfeydd godidog o fynyddoedd Bannau Brycheiniog. Hefyd, fe saif mewn man delfrydol yn union oddi ar yr A470, un o’r ffyrdd cyswllt pwysicaf a mwyaf hygyrch yng Nghymru. Yna, dim ond 2 filltir o’r safle, gallwch gyrraedd yr A465 sy’n cysylltu Gorllewin Cymru â Gogledd Lloegr.
Pan ymwelwch â’r ardal, fe welwch ei hanes diwydiannol yn y creithiau glofaol, ond mae wedi llwyddo i ddal gafael ar y disgleirdeb peirianyddol a oedd mor arwyddocaol i dwf economaidd y wlad.
Mae hanes y safle yn hanfodol i ni: dyna pam mae’n rhaid ei ystyried a’i ymgorffori yn y cynlluniau ar gyfer Gorllewin Rhydycar.
Dysgwch fwyMae ecoleg y tir yn gyfoethog ac yn brydferth. Yn union fel hanes y safle, mae’n bwysig ei fod yn cael ei warchod ac yn dod yn rhan annatod o’r arlwy.
Dysgwch fwyTreuliwch 2 funud i gwblhau ein harolwg cyhoeddus
Gwnewch yr arolwg