snow-dome-render.jpg

Y Cynllun


full-spray-secondary.png

HEB OS NAC ONI BAI, MAE HWN YN GYFLE A FYDD YN TRAWSNEWID CYMOEDD Y DE

Ar ôl dod i feddiant y safle yn 2013, aethom ati i’w drin fel cynfas gwag ar gyfer y cynllun gan dreulio cryn dipyn o amser ac adnoddau i ddeall yn fanwl ei nodweddion ecolegol a’i dreftadaeth unigryw, ac i ddylunio cynllun a fyddai’n datblygu’r ardal mewn modd sensitif. Mae llwyddiant y prosiectau adfywio a gafwyd yma’n ddiweddar megis Redhouse Cymru, Coleg Merthyr a datblygiadau fel Parc Manwerthu Cyfarthfa a Melinau Trago, yn dangos bod y rhanbarth yn canolbwyntio ar ddatblygu’r economi.

Mae yna ffocws clir hefyd ar ddatblygu’r ardal ar gyfer chwaraeon antur. Gyda llwyddiant BikePark Cymru a Rock UK, mae cyrchfan chwaraeon a hamdden mewn sefyllfa dda i adeiladu ar y momentwm hwnnw. O ran tai, bydd y gymdogaeth breswyl newydd yn cefnogi’r angen lleol i ddatblygu mwy o gyflenwad yn y tymor hir. Gan gysylltu’r gymdogaeth bresennol â chyrchfan chwaraeon a hamdden eiconig reit wrth stepen y drws, mae Gorllewin Rhydycar yn lleoliad perffaith i gartrefi newydd.

Edrychwch ar yr elfennau a gynigir isod.

scroll-down.png
indoor-snow-centre-jump.jpg

CANOLFAN EIRA DAN DO

Yn fwy na 500 metr o hyd, bydd y cynllun yn gartref i un o’r llethrau sgïo mwyaf dan do yn Ewrop a’r byd. Gan ddefnyddio technoleg o’r radd flaenaf a thopograffi presennol y tir, bydd y ganolfan eira yn gweithredu “trwy gydol y flwyddyn” ac yn darparu amodau sgïo anhygoel ar gyfer pob tymor.

Bydd y ganolfan yn gweddnewid chwaraeon y gaeaf ym Mhrydain ac yn dod yn ganolfan ragoriaeth i Dîm Sgïo Olympaidd Prydain. Fel y prif atyniad, bydd yr elfen hon yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r DU, Ewrop a thu hwnt.

PARC DŴR TROFANNOL DAN DO

Bydd y cynllun datblygu yn cynnwys un o barciau dŵr mwyaf y DU. Gyda hinsawdd drofannol gyson, bydd y parc dŵr yn cynnal traethau artiffisial, ardal nofio ac ymdrochi ar gyfer pob oedran a lefel. Ar ben hynny, ceir sleidiau ac atyniadau dŵr cyffrous i’r holl deulu.

indoor-tropical-water-park.jpg
adventure-park.jpg

PARC ANTUR

I gyd-fynd â’r lleoliadau campau mewnol o’r radd flaenaf, caiff parc antur dan do ac awyr agored ei greu. Bydd y parc hwn yn cynnwys reid mynydd, “clip-a-dring”, gwifrau sip a mwy o weithgareddau difyr i ysgogi’r adrenalin ar gyfer pob oed.

GWESTY SBA MOETHUS

Bydd hwn yn westy o’r radd flaenaf gyda chyfleusterau cynadledda ac opsiynau bwyta o safon. Bydd y gwesty sba moethus yn lle perffaith i aros ac ymlacio wrth roi cynnig ar gyfleusterau hamdden Gorllewin Rhydycar neu ganfod harddwch naturiol y parc cenedlaethol gerllaw.

spa-hotel.jpg
sports-hotel.jpg

GWESTY CHWARAEON

Bydd y gwesty hwn yn cynnig arhosiad cysurus, rhesymol ac anffurfiol. Bydd yn lle gwych i ymlacio o’ch gweithgareddau a’ch anturiaethau ac i gynllunio’r diwrnod nesaf.

CABANAU A PHARTH GLAMPIO

Mae cabanau unigol a phreifat yn dod â chi’n agosach at natur y tir a’i goedwigoedd. Mae prisiau’n amrywio yn ôl gwerth - o’r sylfaenol i’r moethus.

lodge-and-glamping-zones.jpg

Show us your support and concerns!

Please take 2 minutes to complete our public survey

Take survey